Astudiaeth Ymchwil O Ddarpariaeth Gwasanaeth Cymhwyso Ar Gyfer Plant A Phobl Ifainc Sydd  Nam Ar Y Golwg Yng Nghymru Mai 2016

 

Peter R Jones

Blind Children UK Cymru, Adeilad 3, Parc Busnes Dwyreiniol, Llaneirwg, Caerdydd, CF3 5EA

1. Crynodeb Gweithredol

Daeth Blind Children UK Cymru yn rhan o deulu Guide Dogs yn 2013. Mae Blind Children UK Cymru yn cefnogi plant a phobl ifainc sy’n ddall a gwan eu golwg a’u teuluoedd, trwy gynni hyfforddiant cymhwyso a gwasanaethau cefnogi. Caiff hyfforddiant a chefnogaeth mewn medrau symudoldeb, cyfeiriadedd ac annibyniaeth eu cyflenwi ar hyn o bryd trwy gyfrwng rhaglen “Movement Matters” (gwelir crynodeb o’r rhaglen hon yn Atodiad G).

Argymhella Blind Children UK Cymru y dylai’r holl blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg yng Nghymru gael mynediad at hyfforddiant cymhwyso sy’n glynu wrth y ‘Quality Standar in the Delivery of Habilitation Training’1 yn ôl y galw. (Mae’r ‘Quality Standards’ yn rhoi llinell sylfaen ar gyfer ymarfer cymhwyso ac yn rhagnodi’r medrau, yr wybodaeth a’r dealltwriaeth sydd eu hangen gan y rhai sy’n cyflwyno hyfforddiant o’r fath a beth y gallesid disgwyl iddynt ei gyflwyno; maent hefyd yn cynnwys y deilliannau dysgu disgwyliedig ar gyfer y plant a’r bobl ifainc dan hyfforddiant sy’n colli golwg) (Miller. Et al, 2012). Yn 2012, datgelodd adroddia o’r enw “Growing up and Moving On” 2 bod darpariaeth gwasanaethau cymhwyso ar draws Cymru yn anghyson iawn gyda deg Awdurdod Lleol yn darparu dim gwasanaethau o gwbl (Kelleher 2012). Comisiynwyd yr astudiaeth bresennol gan Blind Children UK Cymru gyda’r nod o ymchwilio’r lefelau presennol o gymhwyso ar gyfer plant a phobl ifainc dall a gwan eu golwg yng Nghymru yn ôl fel y crybwyllir gan Awdurdodau Lleol, er mwyn adeiladu cysylltiadau ychwanegol gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Cymdeithasol a chomisiynwyr gwasanaethau ac i hysbysu mudiadau partner yn y sector colli golwg a Llywodraeth Cymru. Wrth wraidd y nodau hyn y mae awydd cryf gan Blind Children UK Cymru i wella gwasanaethau yng Nghymru i blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg.

Y darganfyddiadau allweddol yw bod bylchau yn narpariaeth gwasanaeth wedi cynyddu ers 2012 sy’n meddwl bod dirywiad cyson wedi bod yn lefel y gefnogaeth a ddarperir gan Awdurdodau Lleol i blant a phobl ifainc yng Nghymru sydd â nam ar y golwg.  Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn cefnogi’r darganfyddiadau allweddol hyn:

·        Mae’n achos pryder nad yw Awdurdodau Lleol yn adnabod pob plentyn a pherson ifanc sydd â nam ar y golwg yn iawn, o gymharu’r data a grybwyllwyd ganddynt â data cyffredinolrwydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

·        Ar draws Cymru gyfan does dim ond 8.6 o arbenigwyr cymhwyso i blant sy’n gyfwerth ag amser llawn ar gael gydag 10 Awdurod Lleol yn cyflogi dim un.  Amcangyfrifwn y dylai’r nifer a gyflogir, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, fod rhwng 15 a 19 sy’n gyfwerth ag amser llawn i ddiwallu’r angen.

·        Mae nifer athrawon arbenigol y rhai sydd â nam ar y golwg wedi gostwng gan 12 y cant ers 2012 tra bo’r baich achosion o blant wedi dangos cynnydd bychan.

·        Mae gweithwyr cymdeithasol arbenigol (nam ar y golwg) bron wedi diflannu o Gymru gyda dim on 3.2 sy’n gyfwerth ag amser llawn ar ôl ac mae’r rhain wedi’u neilltuo’n bennaf ar gyfer timau oedolion.

·        Mae’r mwyafrif llethol o swyddogion ailgymhwyso sy’n cefnogi plant yn gweithio’n bennaf mewn gwasanaethau i oedolion.

·        Dim ond 55 y cant o Awdurdodau Lleol sy’n defnyddio’r fframwaith ansawdd er penderfynu cymhwyster i wasanaethau, sef y ‘National Sensory Impairment Partnership’.  Dim ond Gwent a Chaerdydd sy’n crybwyll cynnwys rhieni a phlant yn y broses o wneud penderfyniadau.

·        Dylai gweithredu mewn dull sy’n canolbwyntio ar unigolion gan gynnwys plant a phobl ifainc fod wrth galon y penderfyniadau a wneir gan bob awdurdod lleol.

·        Nid yw 50 y cant o Awdurdodau Lleol yn darparu gwasanaeth na gwasanaeth wedi’i leihau yn ystod gwyliau’r ysgol.

·        Dangosodd y gwaith o gasglu data bod diffyg cysylltiad yn aml rhwng addysg a gwasanaethau cymdeithasol o ran cydweithio a chyd-drefnu gwasanaethau cymhwyso.

·        Yn gyffredinol nid yw’n ymddangos bod lefelau gwasanaeth yn cyd-fynd â Chodau Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o ran gwasanaethau cymhwyso plant.

2. Cyflwyniad

Amcangyfrifir bod 40,000 (plant a phobl ifainc) hyd at 25 oed sydd â nam ar y golwg digon difrifol i fod angen cefnogaeth arbenigol yn y DU.  O’r rhain mae oddeutu 25,000 dan 16 oed:

·        Lloegr – 34,000 (oddeutu 21,400 dan 16 oed)

·        Yr Alban – 3,235 (oddeutu 1,970 dan 16 oed)

·        Cymru – 1,935 (oddeutu 1,180 dan 16)

·        Gogledd Iwerddon – 1,260 (oddeutu 810 dan 16 oed)

Ffynhonnell: RNIB 20133

Mae’r ateb i alluogi a chefnogi plant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg i gyrraedd eu llawn botensial i’w gael yng nghyflenwad hyfforddiant cymhwyso a gwasanaethau cefnogi cynhwysfawr yn ôl y Safonau Ansawdd gyda phwyslais arbennig ar ymyriad ar ôl diagnosis yn y blynyddoedd cynnar.  Mae rhoi amser i’r blynyddoedd cynnar a chynnal cefnogaeth nes tyfu’n oedolion yn hanfodol os yw plant a phobl ifainc i gael y cyfle gorau i fod yn oedolion annibynnol, ymreolus a chyflogadwy.  Cyfeirnodir cymhwyso yn yr Ymarfer Codau newydd a rhoddir arweiniad ar ymarfer swyddogaethau’r gwasanaethau cymdeithasol a threfniadau partneriaeth mewn perthynas â rhan 2 (Swyddogaethau Cyffredinol) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Mae paragraffau185-186 y Cod yn dweud:

Mae cymhwyso yn ganolog o ran galluogi plant ac oedolion ag anabledd i fyw mor annibynnol â phosibl fel ag y mae’n allweddol i feithrin a datblygu medrau a fyddai fel arall yn cael eu dysgu’n ddamweiniol.  Mae’n hanfodol os yw’r unigolyn wedi methu datblygu’r medrau hynny neu’n hwyr yn gwneud hynny.  Mae adnabod gwasanaethau ataliol sy’n helpu pobl i ddysgu, cadw neu wella medrau a gallu swyddogaethol yn hanfodol er hyrwyddo lles.  Fel gydag ailalluogi, dylai cymhwyso effeithiol gefnogi anghenion corfforol, synhwyraidd, cymdeithasol ac emosiynol a chael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol.  Gall cefnogaeth gymhwyso fod yn wahanol i wasanaethau ailalluogi safonol a bydd gofyn dull gweithredu gwahanol; gall un sy’n canolbwyntio ar gefnogaeth benodol fod yn wahanol i wasanaethau ailalluogi safonol ac anghenion yr unigolyn a’i deulu.  O ganlyniad, bydd gofyn am raglen cefnogaeth mwy adeiledig am gyfnod hwy.  Dylai ailalluogi a chymhwyso effeithiol gael eu cyflwyno mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a’r GIG.

Mae Blind Children UK Cymru yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru’n gryf ynghylch pwysigrwydd cyflenwi cymhwyso yn ôl fel y’i gwelir yn eu Cod Statudol newydd.

3. Dulliau

Cafodd Arolwg Cymhwyso Plant ei weithredu gan dîm Blind Children UK Cymru gyda chymorth gan Strategaeth Cŵn Tywys a Nicola Crews, Cynghorwr Ymgynghorol ac Addysgol RNIB Cymru.  Gwnaed arolwg i gael ciplun o wasanaethau cymhwyso o 22 o Awdurdodau Lleol yn Nghymru ym Mehefin/Hydref 2015.  Roedd yr arolwg dwyieithog yn wirfoddol ac fe’i gweithredwyd trwy gyfrwng holiadur drwy’r post a ddilynwyd gan nodyn atgoffa drwy’r post.  Anfonwyd yr arolwg at y Prif Weithredwr ym mhob Awdurdod Lleol yn y gobaith y byddai hyn yn annog ymatebion ar y cyd gan addysg a gwasanaethau cymdeithasol (o ystyried bod y ddau yn gallu darparu gwasanaethau cymhwyso).  Roedd hefyd waith atodol helaeth un ai dros y ffôn, trwy e-bost neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda’r person a gwblhaodd yr arolwg i geisio sicrhau bod y data a ddychwelwyd mor gywir â phosibl.  Digwyddodd y gwaith maes rhwng Mehefin 2015 a Thachwedd 2015.  Gellir cael copïau o’r holiadur gan Peter Jones o Blind Children UK Cymru (01189 838 746).

Roedd yr ymateb terfynol gant y cant er bod nifer o Awdurdodau Lleol wedi cyflwyno dychweliadau ar y cyd a ddatgelai drefniadau gweithio lleol partneriaethol.  Mae hwn yn raddfa ymateb eithriadol i arolwg gwirfoddol ac fe hoffem fynegi ein diolchgarwch llwyr am hyn i’r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

4. Canlyniadau

Nifer y plant sydd â nam ar y golwg a’r nifer sy’n cael mynediad at wasanaethau cymhwyso – Atodiad A

Mae cyfanswm y plant a’r bobl ifainc sydd â nam ar y golwg yng Nghymru a adnabyddir yn yr arolwg hwn fwy neu lai yr un fath â’r nifer a adroddwyd yn adroddiad 2012 Kelleher, sef oddeutu 1,500.  Mae’n achos pryder bod data cyffredinolrwydd Swyddfa’r Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y dylai’r nifer fod yn 1,935.  Mae hyn yn ddiffyg o 22 y cant ac efallai’n awgrymu nad yw’r Awdurdodau Lleol yn adnabod yr holl blant a’r bobl ifainc sydd â nam ar y golwg.  Aeth 23 y cant o blant a phobl ifainc  sydd â nam ar y golwg at wasanaethau cymhwyso yn y chwe mis cyn i’r ffurflen arolwg gael ei chwblhau.  Roedd y canran uchaf o blant a phobl ifainc a gafodd wasanaeth, o fewn yr amrediad oedran 5-11, yn 33 y cant a’r canran isaf, o fewn yr amrediad oedran 17-19, yn 14 y cant.  I’r rhai rhwng 0 a 4 mlwydd oed roedd yn nifer yn 24 y cant.  Mae’r amrediadau oedran eraill i gyd o fewn amrediad 19-29 y cant sy’n agos at y  cyfartaledd cyffredinol o 29 y cant.  Mae’r dystiolaeth yn amhendant pa un a oes unrhyw gefnogaeth arbennig yn cael ei ddarparu i roi cymorth trwy gefnogaeth ychwanegol pan fydd plant a phobl ifainc yn gwneud trawsnewid rhwng gwahanol leoliadau neu ysgolion.  Yr hyn sy’n eglur yw na chafodd oddeutu dri chwarter y plant a’r bobl ifainc yng Nghymru sydd â nam ar y golwg unrhyw gefnogaeth cymhwyso yn y chwe mis cyn i’r ffurflen arolwg gael ei chwblhau.

Roedd gan fwy na hanner y plant a’r bobl ifainc oedd yn cael cefnogaeth ddatganiad anghenion addysgol arbennig.  Bydd ar Lywodraeth Cymru angen ystyried hyn os byddant yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth ADY arfaethedig fydd yn rhoi cynlluniau datblygu unigolion yn lle’r datganiadau.  Ar gyfer plant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg bydd angen i gefnogaeth arbenigol allanol gael ei ddarparu bob amser o’r tu allan i’r ysgol a byddem yn awgrymu bod yn rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth ADY Cymreig newydd wneud hyn yn glir.

A yw gwasanaethau cymhwyso ar gael i blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg mewn Awdurdodau Lleol? – Atodiad B

Hawliodd pob Awdurdod Lleol eu bod yn darparu gwasanaethau cymhwyso.  Nid yw wyth o’r Awdurdodau Lleol yn darparu dim gwasanaeth neu wasanaeth cyfyngedig yn unig yn ystod gwyliau ysgol.  Mynegodd un Awdurdod Lleol, Ceredigion, nad oedd gwasanaeth ar gael oherwydd absenoldeb swyddog symudoldeb.  Nid yw Awdurdod Lleol arall, sef Gwynedd, yn darparu ‘darpariaeth o fewn gwasanaeth’ ond mae’n prynu gwasanaethau gan bartneriaid allanol.

Y nifer o arbenigwyr plant – Atodiad C

Yn ôl ymatebion yr arolwg y mae 8.6 (cyfwerth ag amser llawn) o arbenigwyr cymhwyso ar gyfer plant yn cael eu cyflogi gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  Nid oes gan wyth Awdurdod Lleol arbenigwyr cymhwyso i blant, ond, o’r rhain, mae Gwynedd yn prynu gwasanaethau yn ôl y galw gan Blind Children UK Cymru a Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru.  Mae hyn yn fwlch brawychus mewn darpariaeth gwasanaeth o ystyried Canllawiau Cod Ymarfer statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (gweler uchod).  Ni fentrodd yr arolwg chwilio i weld a oedd arbenigwyr cymhwyso’r plant y sonwyd amdanynt â chymwysterau digonol.  Fodd bynnag, dengys ciplun o aelodau o ‘Habilitation VI UK’ yng Nghymru a gymerwyd yn Hydref 2015 bod un ar bymtheg o bobl yn gweithio yn yr Awdurdodau Lleol Cymreig.  Mae hyn fwy neu lai yr un fath â’r 8.6 cyfwerth ag amser llawn a adroddwyd yn ein harolwg ac awgrymir bod y nifer a adroddir â chymwysterau digonol.  Credwn hefyd, o ganlyniad i’n gwaith data atodol, bod pob arbenigwr cymhwyso plant â chymwysterau digonol.

Mae’r nifer o arbenigwyr symudoldeb sy’n gyfwerth ag amser llawn yn hyd yn oed is, sef 7.1 sy’n gyfwerth ag amser llawn.  Nid yw 50 y cant o Awdurdodau Lleol yn cyflogi arbenigwyr symudoldeb.

Mae pob Awdurdod Lleol yn cyflogi athrawon arbenigol y rhai sydd â nam ar y golwg.  Mae’r nifer a adroddir yn 36.5 sy’n gyfwerth ag amser llawn, sy’n ostyngiad o 12 y cant ers adroddiad Elaine Kelleher yn 2012.  Mae grŵp o bobl yn ymroddi i’r gwaith o wella’r argyfwng staffio parhaus hwn.  Mae ‘All Wales Sensory Group’ wedi ei sefydlu i ddelio â rhai o’r problemau staffio / hyfforddiant / ymarfer cyffredin.  Mae hwn yn grŵp newydd wedi’i sefydlu dan / sy’n atebol i CCAC (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru).  Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o RNIB Cymru, Sense Cymru, NDCS Cymru, Llywodraeth Cymru (Rhwydwaith Mewnol, Cwricwlwm, Cymwysterau a Bwrdd Cyfarwyddwyr Cefnogi Dysgu) a chynrychiolwyr a ddewiswyd o holl sector Nam Synhwyraidd yr Awdurdodau Lleol.  Mae cefnogaeth i’r grŵp wedi bod yn dda, gan amlygu’r gydnabyddiaeth o’r argyfwng staffio presennol a’r awydd i weithio ar y cyd i chwilio am atebion.

Nifer y gweithwyr cymdeithasol arbenigol (nam ar y golwg) – Atodiad CH

Nid yw’r mwyafrif o Awdurdodau Lleol, 82 y cant, yn cyflogi gweithwyr cymdeithasol arbenigol ar gyfer pobl sydd â nam ar y golwg.

Mae lleihad sylweddol wedi bod yn nifer y staff sy’n gyfwerth ag amser llawn ar y cyfan yn y categori hwn ers 2012, yn disgyn o 8.7 i 3.2 o’r rhai sy’n gyfwerth ag amser llawn.

Nifer y swyddogion ailgymhwyso (nam ar y golwg) – a gyflogir gan Awdurdod Lleol neu a brynir gan asiantaeth nad yw’n Awdurdod Lleol – Atodiadau D ac Dd

Cofnodir cyfanswm y swyddogion ailgymhwyso, sy’n gyfwerth ag amser llawn, a gyflogir yng Nghymru i weithio gyda phlant a phobl ifainc yn 15.  Mae hyn yn cymharu ag 16.9 a adroddwyd yn 2012 sydd fwy neu lai yr un fath.  Adroddir bod y mwyafrif llethol o’r swyddogion ailgymhwyso hyn yn gweithio’n bennaf mewn gwasanaethau i oedolion.

Meini prawf cymhwyster a phwy sy’n penderfynu a fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu – Atodiad E

Mae 55 y cant o Awdurdodau Lleol yn defnyddio fframwaith y ‘National Sensory Impairment Partnership’ i benderfynu cymhwyster ar gyfer gwasanaethau.  Mae pob Awdurdod Lleol arall yn defnyddio rhyw fath o asesiad sy’n dibynnu ar angen.

Mae darlun cymysg ar draws yr Awdurdodau Lleol o ran pwy sy’n penderfynu a fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu.  Cadarnha naw Awdurdod Lleol bod yr Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg, ACDNG, yn chwarae rôl sylweddol yn y broses o wneud penderfyniad.  Enwir swyddogion ailgymhwyso ac arbenigwyr cymhwyso hefyd fel rhai sy’n cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad.  Mae llawer o dystiolaeth o asesu ar y cyd rhwng y gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.  Dim ond gwasanaeth Gwent, sy’n cynnwys pum Awdurdod Lleol, a Chaerdydd sy’n crybwyll trafodaethau â defnyddwyr gwasanaeth (plant, pobl ifainc a rhieni) yn y broses o wneud penderfyniad.

Lleoliadau ar gyfer gwasanaethau cymhwyso - Atodiad F

Darpara’r mwyafrif o Awdurdodau Lleol wasanaethau cymhwyso ar gyfer plant a phobl ifainc ym mhob lleoliad yn ôl fel y diffinnir gan y Safonau Ansawdd.  Yr eithriad yw Ceredigion sy’n mynegi mai dim ond mewn lleoliadau addysg y maent yn darparu gwasanaeth.

Yr adegau y bydd gwasanaethau cymhwyso ar gael i blant a phobl ifainc – Atodiad Ff

Mae pob Awdurdod Lleol yn darparu gwasanaethau cymhwyso yn ystod y tymor.  Nid yw chwech o’r Awdurdodau Lleol yn darparu unrhyw wasanaeth yn ystod y gwyliau ac mae pump arall yn darparu gwasanaeth wedi’i leihau.  Golyga hyn bod hanner cant y cant o Awdurdodau Lleol yn darparu dim gwasanaeth neu wasanaeth llai yn ystod gwyliau’r ysgol.

5. Trafodaeth

Anfonwyd yr arolwg i’r Prif Weithredwr ym mhob Awdurdod Lleol yn y gobaith y byddai hyn yn annog ymatebion ar y cyd gan addysg a gwasanaethau cymdeithasol (a derbyn bod y ddau yn medru darparu gwasanaethau cymhwyso).  Digwyddodd hyn mewn rhai achosion ond gyda llawer cafwyd effaith blwyfol gyda dim ond un gwasanaeth yn darparu data.  Awgryma’r ymatebion o’r gwaith casglu data bod diffyg cysylltiad yn aml rhwng addysg a gwasanaethau cymdeithasol a amlygir gan ddiffyg eglurder rhwng gwasanaethau mewn perthynas â phwy oedd yn darparu pa wasanaethau i’r plant a’r bobl ifainc sydd â nam ar y golwg.  Gwnaeth arbenigwr ar addysg mewn un awdurdod y sylw canlynol, sy’n crynhoi’r diffyg cysylltiad – “Buasai gen i ddiddordeb mawr mewn cysylltiad pellach â chydweithwyr ynghylch cefnogaeth gwasanaethau cymdeithasol i blant sydd â nam ar y golwg ar hyn o bryd, gan fod hwn yn faes sydd yn heriol iawn i ni – clywais fod arnon ni angen cyfeirio plant trwy broses Plant mewn Angen safonol a dim ond os oedd pryderon yn ymwneud â phroblemau Plant mewn Angen yn ogystal â’u hanabledd.”  Ni ddylai plant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg orfod dibynnu ar atgyfeiriad plentyn mewn angen er mwyn cael mynediad at wasanaethau cymhwyso.

Gweithredwyd yr arolwg yng nghanol heriau difrifol a pharhaus i gyllidebau Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  O ran gwasanaethau cymhwyso i blant a phobl ifainc, ymddengys bod y dystiolaeth a gasglwyd yn ddigalon.

Amlyga’r data a gasglwyd trwy gyfrwng yr arolwg bod Awdurdodau Lleol yn annhebygol o fod yn adnabod pob plentyn a pherson ifanc sydd â nam ar y golwg yn iawn o’i gymharu â ffynonellau data eraill, e.e. data cyffredinolrwydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.  Yr hyn sy’n amlwg yw bod dirywiad sylweddol wedi bod ers 2012 yn y lefelau cefnogaeth a ddarperir gan Awdurdodau Lleol i blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg.

Mae pob Awdurdod Lleol yn dweud eu bod yn darparu gwasanaethau cymhwyso, er bod wyth yn cyfaddef nad ydynt yn darparu unrhyw wasanaeth neu’n darparu gwasanaeth cyfyngedig yn ystod gwyliau’r ysgol.  Ochr yn ochr â hyn mae’n rhaid i ni ystyried nad oes ond 8.6 o arbenigwyr cymhwyso i blant sy’n gyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru.  Yn ei dro, rhaid ystyried hyn ochr yn ochr a’r ffaith ei bod hi’n bosibl bod 1,500 o blant a phobl ifainc sydd angen y gwasanaeth hwn.  Nid yw wyth Awdurdod Lleol yn cyflogi arbenigwr cymhwyso i blant er bod un o’r rhain yn prynu yn ôl y galw gan ddarparwyr o’r trydydd sector.  Ni chasglwyd data i weld a oedd y staff hyn â chymwysterau digonol ond roedd ein gwaith atodol yn awgrymu hynny.

Fe ŵyr Blind Children UK Cymru trwy flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu gwasanaeth bod arbenigwr cymhwyso hollol gymwys mewn cytundeb o bum diwrnod yr wythnos yn medru gweithio gydag oddeutu 40-50 plentyn y flwyddyn (cymysgedd o ymyriadau byr, canolig a mwy hirdymor).  Y casgliad a geir o feini prawf estynedig NatSIP, sydd ar ddod, ar gyfer dosbarthu cefnogaeth cymhwyso yw y dylai pob plentyn sydd â nam ar y golwg gael asesiad gan arbenigwr cymhwyso cymwysedig.  Ar sail hynny awgryma Blind Children UK Cymru y dylai Awdurdodau Lleol Cymreig, yn ddelfrydol, weithio tuag at gael 1 arbenigwr cymhwyso cymwysedig i bob cant o blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg neu o bosibl 1 arbenigwr cymhwyso cymwysedig ac un cynorthwy-ydd cymhwyso cymwysedig i bob cant a hanner o blant a phobl ifainc.  Mae’r Awdurdodau Lleol Cymreig yn adnabod oddeutu 1,500 o blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg (o’i gymharu â 1,900 a amcangyfrifir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol).  Ni all y lefel bresennol o 8.6 o arbenigwyr cymhwyso cymwysedig sy’n gyfwerth ag amser llawn a gyflogir gan Awdurdodau Lleol Cymreig ddiwallu anghenion 1,500-1,900 o blant a phobl ifainc.  Un ai mae angen ar i lefelau staffio gynyddu neu dylid trefnu gwell partneriaethau gweithio â darparwyr addas o’r trydydd sector.

Dim ond 7.1 sy’n gyfwerth ag amser llawn yw’r nifer o arbenigwyr symudoldeb ac nid yw hanner cant y cant o Awdurdodau Lleol yn cyflogi yr un.  Mae’r darlun yn waeth hyd yn oed ar gyfer gweithwyr cymdeithasol arbenigol ar gyfer y rhai sydd â nam ar y golwg gyda dim ond 3.2 bellach sy’n gyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru.  Ymddengys bod heriau i gyllidebau’r gwasanaethau cymdeithasol yn meddwl bod gwasanaethau arbenigol ar gyfer plant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg ar fin diflannu.  Mae ar blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg angen cael mynediad at wasanaethau a staff proffesiynol, cymwysedig sydd â’r wybodaeth arbenigol berthnasol, sy’n deall yr anghenion ac yn gallu rheoli asesiadau cynhwysfawr a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen. 

Ochr yn ochr â hyn mae nifer yr Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg yn dal i ostwng ond mae’r ‘All Wales Sensory Group’ newydd yn edrych ar hyn.  Mae nifer y swyddogion ailgymhwyso yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifainc wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2012 er bod y staff sy’n ymrwymo i wneud y gwaith hwn yn gweithio yn bennaf o fewn gwasanaethau i oedolion. 

Mae’r gostyngiad amlwg hwn mewn lefelau staffio’n gyffredinol ers 2012 yn awgrymu bod yr heriau mewn cyllidebau Awdurdodau Lleol yn cael effaith gref ar y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi plant a phobl ifainc dall a gwan eu golwg.  Ni ellir pwysleisio’n ddigon cryf bod gwasanaethau yn methu dal llawer mwy a rhaid gwneud rhywbeth o ddifrif i wella comisiynu a darparu gwasanaethau.

Roedd yn galonogol gweld bod mwy na hanner yr Awdurdodau Lleol yn defnyddio rhyw fath o feini prawf asesu, fel fframwaith y NatSIP, i benderfynu cymhwyster a cheir tystiolaeth o weithio ar y cyd rhwng arbenigaethau yn y broses o wneud y penderfyniad.  Roedd yn siomedig mai dim ond gwasanaeth Gwent a Chaerdydd sy’n crybwyll bod cwsmeriaid (rhieni a phlant) yn cymryd rhan y broses asesu.  Mae hyn yn groes i reoliadau Llywodraeth Cymru sy’n disgwyl proses asesu sy’n canolbwyntio ar y plant a’r bobl ifainc, yn cefnogi hawliau plant a phobl ifainc i gael sgyrsiau llawn parch am eu lles ac ymarfer llais cryf a rheolaeth yn y penderfyniadau am y gwasanaethau maent yn eu derbyn. 

Yn y mwyafrif o’r ardaloedd yng Nghymru darperir gwasanaethau cymhwyso yn y cartref, yn yr ysgol ac yn yr amgylchedd cyhoeddus yn ôl y Safonau Ansawdd.  Fodd bynnag, mae gwasanaeth yn wael ar draws Cymru yn ystod gwyliau’r ysgol sy’n achos pryder mawr.  Rhaid i gefnogaeth y mae ar blant ei angen i ddatblygu, a dod yn feistri ar fedrau byw’n annibynnol, fod yn gyson ac nid yn ddibynnol ar galendr yr ysgol.  Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg gwasanaeth hwn sy’n bodoli am 25 y cant o’r flwyddyn galendr.

6. Diweddglo   

O ran y nod cyntaf mae canlyniadau’r arolwg yn rhoi ciplun manwl o lefelau cymhwyso ar gyfer y deillion a’r rhai gwan eu golwg ym Medi/Tachwedd 2015 yng Nghymru.  Effaith ychwanegol o weithredu’r arolwg yw ei fod wedi codi proffil gwasanaeth ‘Movement Matters’ a ddarperir gan Blind Children UK Cymru ac wedi agor sgwrs rhwng llawer o’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  Bydd yr adroddiad yn darparu cyfle i Awdurdodau Lleol brisio gwerth eu gallu presennol o ran arbenigwyr cymhwyso plant gyda’r bwriad o adnabod cyfleoedd ar gyfer cydweithredu i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Bydd yr adroddiad yn cael ei rannu â holl fudiadau’r trydydd sector sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi colli eu golwg yng Nghymru.  Ni fydd y dirywiad parhaus mewn gwasanaethau i blant a phobl ifainc yn syndod o gwbl iddynt.  Mae’r adroddiad yn darparu tystiolaeth wedi’i ddiweddaru i gefnogi ymgyrchoedd er mwyn sicrhau bod gan blant a phobl ifainc sydd wedi colli eu golwg fynediad at wasanaethau sydd eu hangen arnynt i hyrwyddo annibyniaeth ac ansawdd bywyd.  Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu stad argyfyngus gwasanaethau cymhwyso.  Mewn rhannau o Gymru mae arwyddion clir bod staff sydd â medrau arbenigol yn cael eu colli a dangosir ei bod yn anodd iawn cael rhai yn eu lle. 

Yn olaf, mae canlyniadau’r arolwg yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol i ddeffro.  Mae Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Ymarferion Cod cysylltiedig yn ymwneud llawer â mynd i’r afael â phroblemau yn gynnar i’w rhwystro rhag gwaethygu a bygwth lles ac annibyniaeth unigolyn.  Os na fydd rhywbeth yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r diffygion argyfyngus sy’n cael eu nodi mewn darpariaeth gwasanaeth, wedi’u seilio ar ddata’r Awdurdodau Lleol eu hunain, bydd llawer o blant a phobl ifainc yn Nghymru yn methau â chyrraedd eu llawn botensial ac ni fyddant yn gallu cymryd mantais o gyfleoedd bywyd.

7. Cyfeiriadau  

1     Miller, O., Wall, K., a Garner, M. (2011), ‘Quality Standards: Delivery of Habilitation training (Mobility and Independent Living Skills) for Children and Young People with Visual Impairment.  London: Institute of Education, University of London and RNIB

2     Growing Up and Moving On – Service Provision for Children and Young People with Vision Impairment in Wales, Elaine Kelleher, sponsored by Sight Support (September 2012)

3     http://www.rnib.org.uk/knowledge-and-research-hub-research-reports/evidence-based-reviews

 


 

Atodiad A – Nifer y plant sydd â nam ar y golwg a’r nifer sy’n cael mynediad at wasanaethau cymhwyso

Awdurdodau Lleol

Plant a Phobl Ifainc sydd â nam ar y golwg sydd â datganiad

Plant a Phobl Ifainc sydd â nam ar y golwg sydd heb ddatganiad

Yn y chwe mis diwethaf faint o blant a phobl ifainc sydd wedi cael mynediad at wasanaethau cymhwyso?

Canran y plant a’r bobl ifainc sydd wedi cael hyfforddiant cymhwyso yn ystod y chwe mis diwethaf.

Sir Fôn a Gwynedd

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

 

0

28

6

2

1

 

 

6

17

16

0

0

 

 

0

0

4

1

0

 

 

0

0

18

50

0

Pen-y-bont ar Ogwr

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

 

 

0

10

11

5

0

 

 

13

26

36

0

18

 

 

5

9

2

2

2

 

 

38

25

4

40

11

Caerdydd

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

0

63

34

11

0

 

 

18

34

11

0

0

 

 

7

51

26

3

0

 

39

53

58

27

0

Caerfyrddin

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

3

47

16

10

10

 

7

38

21

1

0

 

1

16

4

1

3

 

10

19

11

9

30

Ceredigion

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

0

0

2

0

0

 

0

2

1

1

0

 

 

0

0

0

0

0

 

 

0

0

0

0

0

Conwy

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

0

3

2

1

0

 

0

2

0

4

15

 

0

0

0

0

0

 

 

0

0

0

0

0

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

 

 

 

 

 

 

25*

131*

84*

18*

0*

 

 

 

 

 

 

 

0

0

0

0

0

 

 

 

 

 

 

 

13

94

49

2

0

 

 

 

 

 

 

 

 

52

72

58

11

0

Merthyr Tudful

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

 

0

4

2

2

0

 

 

2

4

4

0

0

 

 

0

2

1

1

0

 

 

0

25

17

50

0

CNPT

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

 

 

3

27

10

6

0

 

9

31

14

0

0

 

3

10

8

0

0

 

25

17

33

0

0

Sir Benfro

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

2

4

2

1

2

 

4

12

13

2

0

 

5

4

0

0

2

 

83

25

0

0

100

Powys

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

0

5

4

5

24

 

1

0

0

0

0

 

0

3

3

3

3

 

 

0

60

75

60

13

RhCT

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

3

16

9

2

0

 

19

27

16

2

0

 

2

7

8

0

0

 

9

16

32

0

0

Abertawe

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

6

32

25

0

0

 

10

24

24

2

0

 

3

18

14

0

0

 

19

32

29

0

0

Bro Morgannwg

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

0

37

20

25

0

 

2

0

0

0

0

 

0

0

2

0

0

 

0

0

10

0

0

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

 

 

 

7

30

43

8

4

 

 

 

15

42

24

2

0

 

 

 

4

16

11

1

4

 

 

 

18

22

16

10

100

Cyfanswm

0-4 blynedd

5-11 mlynedd

12-16 mlynedd

17-18 mlynedd

19-25 mlynedd

Cyfanswm cyfan

 

49

437

270

96

41

893

 

106

259

180

14

33

592

 

43

230

132

14

14

433

 

28

33

29

14

19

29

*methu â darparu manylion rhwng datganiad a rhai nad ydynt yn ddatganiad

 


 

Atodiad B - A yw gwasanaethau cymhwyso ar gael i blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg mewn Awdurdodau Lleol?

Awdurdodau Lleol

Ydynt

Nac ydynt -gyda rhesymau

Sir Fôn/Gwynedd

Dim darpariaeth ‘mewn gwasanaeth’.  Symudoldeb yn cael ei ddarparu gan Swyddog Symudoldeb o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi’i leoli yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir Fôn.  Gwynedd – comisiynir gwasanaethau gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ar gyfer plant hŷn neu Blind Children UK Cymru ar gyfer y plant ifainc.  Trefnir hyn gan wasanaethau plant arbenigol Derwen.

-

Pen-y-bont ar Ogwr

Yn gyffredinol ydynt.  Mae’r ddarpariaeth trwy gyfrwng Addysg a/neu Wasanaethau Cymdeithasol gan ddibynnu ar wasanaethau unigol.  Does dim cytundeb ffurfiol.  Roedd gan Addysg ei Arbenigwyr Symudoldeb ei hun tan yn ddiweddar – byddai arnoch angen cadarnhau ag Addysg beth yw ei ddarpariaeth ar hyn o bryd.  O ran plant ifainc, mae Addysg fel arfer yn arwain y ffordd ynghylch unrhyw gymhwyso ond efallai ein bod ni’n ymwneud â medrau byw bob dydd/symudoldeb ar gyfer plant hŷn.  Bydd Addysg yn cyfeirio atom ni ynghylch pob plentyn os bydd angen asesiad addasiadau/goleuo.

-

Caerdydd

Gwasanaethau Cymdeithasol – mae dau swyddog symudoldeb.  Gwneir atgyfeiriad trwy gyfrwng Athro nam ar y golwg.  Addysg – mae dau arbenigwr cymhwyso plant ac arbenigwr symudoldeb cymwysedig sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio swydd llawn amser.

 

-

Sir Gaerfyrddin

Ydynt

-

Ceredigion

Ydynt ond mae’r swyddog symudoldeb ar seibiant salwch hirdymor ar hyn o bryd.

-

Conwy

Ydynt, un ai trwy gymhwyso a gynigir yn yr ysgol neu yn y gymuned ac mewn rhai achosion trwy leoliad coleg arbennig.

-

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

Ydynt.  Gwasanaethau cyfyngedig yn ystod gwyliau’r ysgol. Dywedodd Casnewydd eu bod nhw'n "derbyn atgyfeiriadau eithriadol o gyfyngedig am blant sydd â nam ar y golwg". Byddai hyn yn awgrymu efallai nad yw'r llwybr atgyfeirio yng Nghasnewydd - yn enwedig trwy gyfrwng pobl broffesiynol y maes iechyd - yn gweithio.

-

Merthyr Tudful

Ydynt.  Yn cael eu darparu trwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda RhCT.

-

CNPT

Ydynt.  Yn ystod y tymor mae pob plentyn sydd eu hangen yn cael hyfforddiant symudoldeb a chyfeiriadedd.  Y tymor hwn rydyn ni hefyd wedi dechrau cynnig rhaglen o annibyniaeth a medrau byw bob dydd.  Eto, dim ond yn ystod y tymor y darperir hon gan ein bod yn gweithio mewn lleoliadau addysg.

-

Sir Benfro

Ydynt

-

Powys

Ydynt.  Gall atgyfeiriadau fod yn uniongyrchol, gan ymarferwyr addysg a iechyd neu drwy’r Tîm Plant ag Anableddau neu swyddog cymhwyso Oedolion sydd â Nam ar y Golwg.

-

RhCT

Mae pedwar o Swyddogion Ailgymhwyso (Nam ar y Golwg) wedi’u lleoli yn Nhîm y Gwasanaethau Synhwyraidd yn y Gwasanaethau i Oedolion.  Ein rôl gyda phlant a phobl ifainc yw ymgymryd â’r cofrestru (nam ar y golwg difrifol/nam ar y golwg) yn dilyn derbyn Tystysgrif Nam yr y Golwg gan Wasanaeth Llygaid yr Ysbyty.  Mae hyn yn ddyletswydd statudol.  Rydym ni’n ymgymryd ag asesu ac yn darparu gwybodaeth a chyngor.  Rydym ni’n cysylltu â chydweithwyr yn yr Adran Addysg oherwydd, er ein bod ni’n gallu darparu hyfforddiant symudoldeb ac annibyniaeth, mae gan y staff o fewn Addysg y cymwysterau a llawer mwy o wybodaeth arbenigol i weithio gyda phlant a phobl ifainc.  Ein dull ni yw cydweithio ac fe allem ddarparu hyfforddiant yn ystod gwyliau’r ysgol, er enghraifft, petai ein cydweithwyr ym myd Addysg yn gofyn am hyn.                                                                                                                       

-

Abertawe

Ydynt.

-

Bro Morgannwg

Ydynt.

-

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

Ydynt.

-

 


 

Atodiad C – Y nifer o arbenigwyr plant

Awdurdodau

Lleol

Nifer (cyfwerth ag amser llawn) yr arbenigwyr cymhwyso plant

Nifer (cyfwerth ag amser llawn) yr Arbenigwyr Symudoldeb

Nifer Athrawon Arbeingol Disgyblion â Nam ar y Golwg

Sir Fôn/Gwynedd

0

0

2

Pen-y-bont ar Ogwr

1

0

2

Caerdydd

1

1

6.5*

Sir Gaerfyrddin

0.6

0

2

Ceredigion

0

0.6

0**

Conwy

1

0

2.5

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

1

0

5

Merthyr Tudful

0

0

2

CNPT

0

0.5

1.6

Sir Benfro

0

0

0.9

Powys

1

1

3

RhCT

2

1.5

2.5

Abertawe

1

0

2

Bro Morgannwg

0

1

1.5

Wrecsam, Sir Dinbych a Sir y Fflint

 

1.5

3

Cyfanswm

8.6

7.1

36.5

 

*Maent hefyd yn cyflogi 4.6 o gynorthwy-wyr addysgu nam ar y golwg sydd â chymwysterau Braille – nid yw’r rhain wedi’u cysylltu â phlant penodol mewn ysgol ond yn gweithio ar draws y gwasanaeth i gefnogi mynediad at y gwasanaeth a’i adeiladu o fewn ysgolion.  Mae arnynt hefyd angen cefnogaeth â symudoldeb a chymhwyso pan fydd angen.

**yn rhannu oddeutu 0.2, cyfwerth ag amser llawn, o gefnogaeth athrawon arbenigol o Sir Gaerfyrddin.

 

Atodiad CH – Nifer y gweithwyr cymdeithasol arbenigol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifainc

Awdurdodau Lleol

Nifer (cyfwerth ag amser llawn) y gweithwyr cymdeithasol arbenigol (nam ar y golwg)

Gwasanaethau i oedolion

Gwasanaethau i blant

Sir Fôn/Gwynedd

0

0

0

Pen-y-bont ar Ogwr

1

1

0

Caerdydd

0

0

0

Sir Gaerfyrddin

0

0

0

Ceredigion

0

0

0

Conwy

0.7

0.7

0

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

0

0

0

Merthyr Tudful

1

0.5*

0.5*

CNPT

0

0

0

Sir Benfro

0

0

0

Powys

0

0

0

RhCT

0

0

0

Abertawe

0

0

0

Bro Morgannwg

0.5

*

0.5

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

0

0

0

Cyfanswm

3.2

2.2

1

 

*1 cyfwerth ag amser llawn yn gyfrifol am wasanaethau plant ac oedolion – ni ddarperir manylion amseroedd.

Atodiad D – Nifer y Swyddogion Ailgymhwyso (nam ar y golwg) – sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifainc a gyflogir gan Awdurdodau Lleol

Awdurdodau Lleol

Nifer y swyddogion ailgymhwyso (nam ar y golwg) – a gyflogir gan yr ALl

Gwasanaethau i oedolion

Gwasanaethau i blant

Sir Fôn/Gwynedd

0

0

0

Pen-y-bont ar Ogwr

2

2

0

Caerdydd

0

0

0

Sir Gaerfyrddin

4*

4*

0

Ceredigion

0

0

0

Conwy

0

0

0

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

0

0

0

Merthyr Tudful

0

0

0

CNPT

0

0

0

Sir Benfro

2

1**

1**

Powys

3

3

0

RhCT

0

0

0

Abertawe

0

0

0

Bro Morgannwg

0

0

0

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

0

0

0

Cyfanswm

11

10

1

 

*yn cynnwys cynorthwy-ydd sy’n gwneud asesiadau lefel isel

**dwy swydd cyfwerth ag amser llawn yn gweithio gyda phlant ac oedolion – ni ddarperir manylion ar wahân


 

Atodiad Dd – Nifer y Swyddogion Ailgymhwyso (nam ar y golwg) – trefniadau prynu gydag asiantaeth sydd ddim yn Awdurdod Lleol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifainc

Awdurdodau Lleol

Nifer y swyddogion ailgymhwyso (nam ar y golwg) – trefniadau prynu gydag asiantaeth sydd ddim yn Awdurdod Lleol

Gwasanaethau i oedolion

Gwasanaethau i blant

Sir Fôn/Gwynedd

0

0

0

Pen-y-bont ar Ogwr                                     

0

0

0

Caerdydd

0

0

0

Sir Gaerfyrddin                                                                                         

0

0

0

Ceredigion

0

0

0

Conwy

1

1

0

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

0

0

0

Merthyr Tudful

0

0

0

CNPT

0

0

0

Sir Benfro

0

0

0

Powys

3

3

0

RhCT

0

0

0

Abertawe

0

0

0

Bro Morgannwg

*

0

*

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

0

0

0

Cyfanswm

4

4

*

*yn crybwyll peth prynu gwasanaethau plant yn ôl y galw ond ni nodir faint.

Atodiad E - Meini prawf cymhwyster a weithredir a phwy sy’n penderfynu a fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu

Awdurdodau Lleol

Meini prawf cymhwyster

Pwy sy’n penderfynu a fydd gwasanaeth yn cael ei ddarparu

Sir Fôn/Gwynedd

Tystysgrif cofrestru nam ar y golwg; defnydd gwael o olwg swyddogaethol, meysydd gweledol, canfyddiad pellter a chydsymudiad deulygadog fel ag y nodir mewn adroddiadau arbenigol meddygol; cymhwyster ar gyfer darpariaeth yn dilyn asesu priodol gan asiantaethau perthnasol.

Darperir gwasanaeth yn ôl yr angen.

Pen-y-bont ar Ogwr

O fewn gwasanaethau cymdeithasol ‘nam synhwyraidd sylweddol’ ond mae popeth yn dibynnu ar yr wybodaeth wrth atgyfeirio ac wrth gyflwyno problemau; meini prawf NatSIP ochr yn ochr ag asesu golwg swyddogaethol.  Hefyd asesu symudoldeb/cymhwyso.

Byddai unrhyw ymholiadau ynghylch darpariaeth gwasanaeth yn mynd at reolwr tîm Annibyniaeth/Lles y gymuned ar gyfer penderfyniad; asesu swyddogaethol Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg, asesu gan swyddog symudoldeb/cymhwyso.

Caerdydd

Wedi’i seilio ar y prif angen.  Mae pob plentyn sy’n gymwys i gael gwasanaeth nam ar y golwg yn gymwys i gael yr elfen gymhwyso o’r ddarpariaeth hon.  Mae maint y cyflenwi a’r amseru yn dibynnu ar ddymuniadau’r rhieni, dymuniadau’r plentyn, adeg trawsnewid, angen, asesu gan arbenigwyr cymhwyso.

Arbenigwyr cymhwyso, mewn ymgynghoriad â rhieni, Athrawon Cymwysedig Disgyblion â Nam ar y Golwg, yr ysgol a’r plentyn.

Sir Gaerfyrddin

Mae gwasanaethau i oedolion yn gweithio gydag unrhyw oedolyn dros 18 sydd â nam ar y golwg sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth.  Nid oes rhaid iddynt o reidrwydd fod â nam ar y golwg neu nam difrifol ar y golwg.  Bydd Gwasanaethau Plant yn gwneud asesiad o anghenion Cymhwyso ar unrhyw blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg (gan gyfeirio at Safonau Ansawdd Gwasanaethau Cymhwyso i blant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg; Safonau Ansawdd i Blant a Phobl Ifainc sydd â Nam Synhwyraidd (WAG 2005); Safonau Ansawdd i Blant a Phobl Ifainc sydd â Nam ar y Golwg: Gwybodaeth i Gomisiynwyr a Chynllunwyr Gwasanaethau.

Penderfynir ar ddarpariaeth gwasanaeth ar ôl i’r Swyddog Cymhwyso/Swyddog Ailgymhwyso asesu angen.  Pan nodir y byddai plentyn neu berson ifainc yn manteisio o ddarpariaeth ar eu cyfer, mae Rheolwr y Gwasanaeth (plant), neu’r  Swyddog Uwch Ailgymhwyso (Oedolion) yn trafod natur/lefel y ddarpariaeth.

Ceredigion

NatSIP

Ar ôl asesiad yn ôl angen meini prawf y cymhwyster

Conwy

-

-

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

Safonau NatSIP

Sgorio ar asesiad meini prawf y cymhwyster a thrafodaeth ag Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar y Golwg, y rhieni a’r ysgol.

Merthyr Tudful

Fframwaith NatSIP

Rheolwr ADY mewn ymgynghoriad â chydlynydd nam ar y golwg

CNPT

Rydym yn defnyddio Meini Prawf Cymhwyster NatSIP i benderfynu a yw plant i gael cefnogaeth gan ein gwasanaeth.  Mae unrhyw blant sydd wedi cael eu hasesu gan Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar y Golwg ac sy’n cael eu cadw ar ein llwyth gwaith, yna’n cael eu hasesu gan ein Harbenigwr Symudoldeb, sy’n penderfynu a oes angen medrau symudoldeb/byw bob dydd.

Rydym yn defnyddio Meini Prawf Cymhwyster NatSIP i benderfynu a yw plant i gael cefnogaeth gan ein gwasanaeth.  Mae unrhyw blant sydd wedi cael eu hasesu gan Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar y Golwg ac sy’n cael eu cadw ar ein llwyth gwaith, yna’n cael eu hasesu gan ein Harbenigwr Symudoldeb, sy’n penderfynu a oes angen medrau symudoldeb/byw bob dydd.

Sir Benfro

Mae’n rhaid i’r plentyn/person ifanc fod â nam parhaol a sylweddol ar y golwg sy’n effeithio ar ei fedrau byw bob dydd, ei fedrau cyfathrebu a/neu ei fedrau symudoldeb.

Swyddog Synhwyraidd Uwch (Swyddog Ailgymhwyso Cymwysedig)

Powys

Mae nam ar y golwg anghywiradwy yn cael ei atgyfeirio’n uniongyrchol.  Ar gyfer Tîm y Plant sydd ag Anableddau, nam synhwyraidd canolig i ddifrifol.

Yn dilyn asesiad nam ar y golwg gan swyddog cymhwyso.  Mae’r Tîm Plant ag Anableddau yn penderfynu ar asesiad sy’n eilradd i nam ar y golwg ar gyfer cael asesiad arbenigol a chefnogaeth.

RhCT

Meini prawf cymhwyster NatSIP

Mae’r panel synhwyraidd yn penderfynu gan ddefnyddio meini prawf cymhwyster ac unrhyw wybodaeth ychwanegol berthnasol i’r disgybl.

Abertawe

Mae’r arbenigwyr cymhwyso wedi datblygu eu meini prawf cymhwysedd eu hunain wedi’i seilio ar NatSIP.

Yr arbenigwr cymhwyso

Bro Morgannwg

Asesu yn ôl angen gan Athro Nam ar y Golwg.  Os yw’r plentyn yn hysbys i Dîm Iechyd ac Anabledd Plant, bydd asesiad cychwynnol yn cael ei gwblhau.

Bydd un ai yr Athro Nam ar y Golwg neu, os yw o ganlyniad i asesiad cychwynnol, bydd Rheolwr Tîm y Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn awdurdodi.

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

Meini prawf cymhwyster yr Awdurdod Lleol wedi’i seilio ar NatSIP

Awdurdodau Lleol o fewn darpariaeth ranbarthol

 


 

Atodiad F – Lleoliadau ar gyfer gwasanaethau cymhwyso

Awdurdodau Lleol

O fewn y cartref a’r amgylchedd

Lleoliadau addysgol

(ysgol feithrin/

ysgol/coleg/ prifysgol)

Amgylcheddau cyhoeddus (strydoedd/

siopau lleol/trefi/

defnyddio cludiant cyhoeddus)

Sir Fôn/ Gwynedd

oes

oes

oes

Pen-y-bont ar Ogwr

oes

oes

oes

Caerdydd

oes

oes

oes

Sir Gaerfyrddin

oes

oes (prifysgol – gwasanaeth i oedolion yn unig)

oes

Ceredigion

nac oes

oes

nac oes

Conwy

oes

oes

oes

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen

oes

oes

oes

Merthyr Tudful

oes

oes

oes

CNPT

oes

oes

oes

Sir Benfro

oes

oes

oes

Powys

oes

oes

oes

RhCT

oes

oes

oes

Abertawe

oes

oes

oes

Bro Morgannwg

oes

oes

oes

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

oes

oes

oes

 

 

Atodiad Ff – Yr adegau y bydd gwasanaethau cymhwyso ar gael i blant a phobl ifainc

Awdurdodau Lleol

Yn Ystod y Tymor

Gwyliau’r ysgol/coleg/prifysgol

Y ddau

Sir Fôn/Gwynedd

oes

oes

oes

Pen-y-bont ar Ogwr

oes

oes

oes

Caerdydd

oes

oes

oes

Sir Gaerfyrddin

oes

oes (prifysgol – gwasanaeth i oedolion yn unig)

na

Ceredigion

oes

nac oes

nac oes

Conwy

oes

oes

oes

Gwent (Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Blaenau Gwent a Thorfaen)

oes

oes (gwasanaeth cyfyngedig)

oes

Merthyr Tudful

oes

nac oes

nac oes

CNPT

oes

nac oes

nac oes

Sir Benfro

oes

oes

oes

Powys

oes

oes

oes

Abertawe

oes

nac oes

nac oes

Bro Morgannwg

oes (trwy gyfrwng addysg)

oes (trwy gyfrwng y gwasanaethau cymdeithasol)

oes

Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint

oes

nac oes

nac oes

 

 


 

Atodiad G – Arolwg o Wasanaeth ‘Movement Matters Blind Children UK Cymru’

 

Mae gwasanaeth ‘Movement Matters Blind Children UK Cymru’ yn darparu hyfforddiant i helpu plant a phobl ifainc dall yng Nghymru i symud o gwmpas yn ddiogel ac annibynnol.  Mae ‘Movement Matters’ hefyd yn dysgu medrau byw pwysig fel trin arian a pharatoi bwyd.  Ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth ac ychwanegol, gall ‘Movement Matters’ ddarparu rhaglen wedi’i haddasu gan gynnwys ymwybyddiaeth gorfforol, symudoldeb cadair olwyn, defnyddio’r golwg sydd ar ôl a mwy.

Mae plant sydd yn gweld yn dysgu trwy wylio pobl eraill; yn aml mae plant sydd â nam ar y golwg angen dysgu medrau a chysyniadau na fuasent yn gwybod sut i’w gwneud fel arall.  Mae ‘Movement Matters’ yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth wedi’i bersonoli mewn symudoldeb, medrau cyfeiriadedd ac annibyniaeth o fabandod hyd at gyrraedd oed oedolyn.  Y rhain yw’r medrau fydd yn helpu plentyn dall i wneud pethau fel ymestyn am degan, gwneud byrbryd a datblygu eu medrau gwrando.

Mae hyfforddiant ‘Movement Matters yn datgloi posibiliadau – gan helpu plant a’u teuluoedd i ddeall nad yw colli golwg yn gorfod bod yn rhwystr i gyrraedd eu potensial.

Mae gwasanaethau ‘Movement Matters’ yn cynnwys:

·        asesiad i weld beth yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc

·        hyfforddiant medrau symudoldeb ac annibyniaeth

·        gweithdai cyngor a chefnogaeth i rieni a gofalwyr

·        gwaith ymarferol gyda ffrindiau, teulu a phobl broffesiynol i gefnogi plant a phobl ifainc sydd â nam ar y golwg.

Mae’r gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu cyflenwi gan Arbenigwyr Cymhwyso cymwysedig sy’n gweithio ysgwydd wrth ysgwydd â phobl broffesiynol eraill, er enghraifft: Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ffysiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol a mudiadau eraill gan gynnwys awdurdodau lleol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad hwn fis Mai'r 13eg 2016, dylid darllen y fersiwn hon fel adroddiad terfynol. Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr 1051607 a'r Alban SC042089. Wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr Rhif 31330. Rhif TAW 879717554 0234 05/16.